Amdano ni
Pŵer dau sefydliad blaenllawMae’r ‘Gwobrau Academi Cynaliadwy’ yn ddigwyddiad newydd uchelgeisiol sy’n deillio o ddegawdau o brofiad cyfunol yn y sector gan Cynnal Cymru a RenewableUK Cymru. Cynhelir y Gwobrau am y tro cyntaf yn 2018, ac maent yn gyfuniad o Wobrau Cynnal Cymru a Gwobrau Ynni Gwyrdd Cymru, a drefnir gan RenewableUK Cymru.
Cynnal Cymru
Cynnal Cymru – Sustain Wales yw’r sefydliad sy’n arwain y maes mewn datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Ein cenhadaeth yw cyflwyno Cymru fel y Genedl Gynaliadwy gyntaf.
RenewableUK Cymru
RenewableUK Cymru yw’r corff masnach arobryn ynni ac isadeiledd cynaliadwy Cymraeg.