Ymunwch â ni ar 03 Rhagfyr 10-12yb am ein digwyddiad sbotolau cyntaf, lle y byddwn ni’n dathlu enillwyr y gorffennol ac yn ‘taflu goleuni ar Gynaliadwyedd’
Eleni, oherwydd Covid19 byddmae seremoni Gwobrau Academi Gynaliadwy wedi cael ei gohirio a byddwn ni’n cynnal ein digwyddiad ar-lein cyntaf.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru a Rhys Jones, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru.
Bydd enillwyr a noddwyr y gorffennol yn ein hymuno i siarad am eu cynnydd nhw ers ennill a beth y maen nhw’n gweld fel blaenoriaethau’r adferiad gwyrdd yn dilyn Covid. Byddwn ni’n clywed oddi wrth:
- Grant Peisley, YnNi Teg – enillydd Prosiect Ynni Adnewyddadwy Rhagorol 2018
- Meleri Davies – Partneriaeth Ogwen – enillydd Pencampwr Cynaliadwyedd 2019
- Paul Allen – Canolfan y Dechnoleg Amgen – enillydd y Wobr Arbennig 2019
- Sarah Williams – Wales and West Utilities – Prif noddwr Gwobrau Academi Gynaliadwy
Ar ôl clywed oddi wrth y panelwyr bydd y cyfle i ofyn eich cwestiynau a dweud eich dweud.